Back to results

University of Wales Trinity Saint David

Datblygiad yr eglwysi Annibynnol yn ne-orllewin Cymru, c.1790-1837, gyda sylw arbennig i gyfraniad David Davies, Abertawe (1763-1816), Morgan Jones, Tre-lech (1768-1835) a David Peter, Caerfyrddin (1765-1837)

Abstract

dc:description.abstract

Cyfnod rhwng dau gyfnod, sef cyfnod yr Hen Ymneilltuaeth a chyfnod yr Ymneilltuaeth Newydd, oedd 1790-1837, blynyddoedd a welodd newidiadau mawr yn hanes cymdeithasol Cymru a thwf aruthrol yn hanes yr eglwysi Ymneilltuol. Mae’r traethawd yn darlunio bywyd a gwaith tri arweinydd Annibynnol, sef David Davies, Morgan Jones, a David Peter, a fu’n allweddol yn y newid hwn, gan ddadansoddi arwyddocâd eu cyfraniad. Dewiswyd de-orllewin Cymru yn faes yr astudiaeth fel enghraifft daleithiol o’r hyn a oedd yn digwydd yn genedlaethol, ac er mwyn tanlinellu pwysigrwydd tri ffigur na chafodd sylw eang gan haneswyr hyd yn hyn. Roedd gweinidogaethau y tri yn cwmpasu eglwysi yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, Abertawe a’i chyffiniau sef ardal oedd yn prysur ddatblygu’n ddiwydiannol ar y pryd, a chanolfan drefol bwysig, sef tref Caerfyrddin. Tafolir nodweddion y gwahanol fathau o Galfiniaeth efengylaidd a arddelwyd gan y tri, a’i heffeithiolwrydd yn wyneb yr Arminiaeth a’r Ariaeth resymoliaethol a oedd yn datblygu ar y pryd. Rhoir sylw arbennig i yrfa David Peter fel Pennaeth Academi Caerfyrddin, a’i ran mewn cymedroli’r hen Uchel-Galfiniaeth a goleddwyd gan lawer o’r Hen Ymneilltuwyr gynt, a lledu dylanwad Calfiniaeth Fodern ‘y System Newydd’, diwinyddiaeth y daeth mwyafrif gweinidogion yr Annibynwyr i’w harddel erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r tri yn cynrychioli math newydd o weinidogion, yn lletach eu gorwelion ac yn fwy egnïol eu gweithgaredd na’r rhai a fu o’u blaen, a fynnent hyrwyddo achos y genhadaeth dramor yn ogystal ag estyn tiriogaeth Ymneilltuaeth gartref trwy efengylu’n rymus a phlannu toreth o eglwysi newydd. Bu’r tri yn gweinidogaethu yn ystod tymhorau o ddiwygiad ac ar anterth oes aur pregethu yng Nghymru, a chyfrannent yn helaeth at ffyniant yr Ymneilltuaeth dorfol a fu’n fynegiant mor bwerus o Gristnogaeth werinol Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Degree

thesis:*
Name dc:type.qualificationname
phd
Level dc:type.qualificationlevel
doctoral
Grantor dc:publisher.institution
University of Wales Trinity Saint David
Year dc:date.issued
2022

Author and committee

dc:creator, dc:contributor.*
Author dc:creator
  • Evans, Emyr Gwyn

Subjects

dc:subject × 2

Identifiers

dc:identifier.*
Dc Identifier Grantnumber
UWTSD
OAI identifier oai:identifier
oai:repository.uwtsd.ac.uk:2057

Chain of custody

source
Harvested from
University of Wales Trinity Saint David
Base URL
repository.uwtsd.ac.uk/cgi/oai2
Last updated
2026-07-24
Source record
OAI-PMH GetRecord
citation

Evans, Emyr Gwyn. Datblygiad yr eglwysi Annibynnol yn ne-orllewin Cymru, c.1790-1837, gyda sylw arbennig i gyfraniad David Davies, Abertawe (1763-1816), Morgan Jones, Tre-lech (1768-1835) a David Peter, Caerfyrddin (1765-1837). doctoral thesis, University of Wales Trinity Saint David, 2022. https://doi.org/10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00002057