Back to results

University of Wales Trinity Saint David

Mesur y galw am addysg ol-16 trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith disgyblion Blwyddyn 11 sydd yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf mewn tair ysgol uwchradd yng Ngheredigion.

Abstract

dc:description.abstract

Gosodir yr ymchwil o fewn cyd-destun agenda ieithyddol cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i greu cynnydd o 5% yn nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2011, fel yr amlinellir mewn dogfennau megis Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog (LlCC, 2003). I gyd-redeg â‟r twf hwnnw yn ogystal, bwriedir sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth ac yn y galw am addysg Gymraeg/ddwyieithog, megis yr adroddir yn y ddogfen ymgyngoriadol Strategaeth Addysg Cyfrwng-Cymraeg (LlCC,2009). Fel modd i sicrhau dilyniant i‟r ddarpariaeth statudol trwy gyfrwng y Gymraeg, mae gan y sector addysg uwch hefyd swyddogaeth allweddol. Gosodwyd yn Iaith Pawb (LlCC, 2003), felly, nod o sicrhau cynnydd o 7% yn nifer y myfyrwyr sydd yn dilyn cyrsiau naill ai yn llawn neu‟n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector hwnnw. Erbyn hyn sefydlwyd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng-Cymraeg i hyrwyddo‟r datblygiad gyda‟i hadain farchnata, MANTAIS, yn chwarae rhan bwysigi godi ymwybyddiaeth ymhlith darpar-fyfyrwyr o‟r cyfleoedd sydd ar gael. Serch hynny, er awydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu‟r ddarpariaeth gyfrwng-Cymraeg ar draws y sectorau, gan gynnwys y sector Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ni ellir sicrhau llwyddiant i‟r agenda ieithyddol ar raddfa genedlaethol oni bai y gellir sicrhau cynnydd yn y galw yn ogystal. Bwriad yr ymchwil oedd asesu lefel y galw hwnnw ymhlith disgyblion oedd ar fin gorffen cyfnod o addysg statudol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion4 uwchradd. Cyfyngwyd yr ymchwil i ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 mewn tair ysgol uwchradd o fewn un awdurdod addysg lleol yng Nghymru gyda‟r bwriad o weld i ba raddau roedd agenda ieithyddol cenedlaethol LlCC yn dylanwadu ar eu dewis o gyfrwng addysg neu hyfforddiant ar gyfer y dyfodol.

Degree

thesis:*
Name dc:type.qualificationname
ma
Level dc:type.qualificationlevel
masters
Grantor dc:publisher.institution
University of Wales Trinity Saint David
Year dc:date.issued
2010

Author and committee

dc:creator, dc:contributor.*
Author dc:creator
  • Jones, Sandra Morris

Subjects

dc:subject × 1

Rights

Language dc:language
other

Identifiers

dc:identifier.*
Dc Identifier Grantnumber
UWTSD
OAI identifier oai:identifier
oai:repository.uwtsd.ac.uk:400

Chain of custody

source
Harvested from
University of Wales Trinity Saint David
Base URL
repository.uwtsd.ac.uk/cgi/oai2
Last updated
2026-07-24
Source record
OAI-PMH GetRecord
citation

Jones, Sandra Morris. Mesur y galw am addysg ol-16 trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith disgyblion Blwyddyn 11 sydd yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf mewn tair ysgol uwchradd yng Ngheredigion.. masters thesis, University of Wales Trinity Saint David, 2010. https://doi.org/10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00000400