Back to results

University of Wales Trinity Saint David

Ffactorau sydd yn dylanwadu ar rieni wrth iddynt ddewis cyfrwng addysg gynradd i'w plant mewn ardal benodol yn Sir Gaerfyrddin

Abstract

dc:description.abstract

Bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yw creu cynnydd o 5% yn nifer siaradwyr y Gymraeg erbyn 2011 o gymharu â nifer Cyfrifiad 2001. Yn ôl Redknap (2006), golygai hynny gynnydd o 160,000. Er mwyn sicrhau’r cynnydd hwnnw, ystyrir bod gan y gyfundrefn addysg swyddogaeth allweddol. Yn ôl Redknap (2006), ymddengys y bydd angen cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sydd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd i sicrhau’r twf angenrheidiol. Beth bynnag, er i’r ystadegau dros y blynyddoedd ddangos cynnydd amlwg yn nifer y disgyblion sydd yn mynychu sefydliadau cyfrwng-Cymraeg, gan gynnwys plant o gefndiroedd ieithyddol Cymraeg, Saesneg a chymysg, ac er gwaethaf tystiolaeth gadarnhaol iawn o faes ymchwil am fanteision gwybyddol a deallusol dwyieithrwydd (Peal a Lambert, 1962; Cummins, 1987; May et al., 2004), dengys ystadegau LlCC bod y mwyafrif o rieni yn dewis addysg cyfrwng-Saesneg i'w plant. Yn wyneb dymuniad LlCC i gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg felly, rhaid ystyried beth fydd effaith y tueddiadau presennol ar y nod hwnnw. Seilwyd yr ymchwil hwn ar arolwg o sylwadau ac agweddau rhieni sydd wedi gosod eu plant mewn modelau gwahanol o ddarpariaeth ieithyddol, sef ysgol gynradd Gymraeg benodedig (ysgol Categori 1), ysgol gynradd cyfrwng-Saesneg (ysgol Categori 5) ac ysgol dwy ffrwd (ysgol Categori 2). Ystyrir pa ffactorau fu’n ddylanwadol wrth i’r rhieni hynny ddewis ysgol i’w plant ynghyd â’r ffactorau a’u rhwystrodd rhag dewis addysg cyfrwng Cymraeg. Daw’r ymchwil hwn i’r casgliad bod lle i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng-Cymraeg yn fwy egnïol yn lleol ac yn genedlaethol.

Degree

thesis:*
Name dc:type.qualificationname
ma
Level dc:type.qualificationlevel
masters
Grantor dc:publisher.institution
University of Wales Trinity Saint David
Year dc:date.issued
2010

Author and committee

dc:creator, dc:contributor.*
Author dc:creator
  • Davies, Llinos Mai

Subjects

dc:subject × 2

Rights

Language dc:language
other

Identifiers

dc:identifier.*
Dc Identifier Grantnumber
UWTSD
OAI identifier oai:identifier
oai:repository.uwtsd.ac.uk:399

Chain of custody

source
Harvested from
University of Wales Trinity Saint David
Base URL
repository.uwtsd.ac.uk/cgi/oai2
Last updated
2026-07-24
Source record
OAI-PMH GetRecord
citation

Davies, Llinos Mai. Ffactorau sydd yn dylanwadu ar rieni wrth iddynt ddewis cyfrwng addysg gynradd i'w plant mewn ardal benodol yn Sir Gaerfyrddin. masters thesis, University of Wales Trinity Saint David, 2010. https://doi.org/10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00000399