{"id":{"repo_id":"uwtsd","oai_identifier":"oai:repository.uwtsd.ac.uk:3922"},"canonical_url":"https://search.dev.ndltd.org/etd/uwtsd/oai:repository.uwtsd.ac.uk:3922","repository":{"repo_id":"uwtsd","name":"University of Wales Trinity Saint David","base_url":"https://repository.uwtsd.ac.uk/cgi/oai2"},"display":{"title":"Y Plentyn Hapus: Ymchwiliad i ddehongliadau a phrofiadau plant 3 – 7 oed o’r hyn sy’n creu ymdeimlad o hapusrwydd ynddynt o fewn yr ysgol.","abstract":"Er bod llais a lles y plentyn yn flaenoriaeth o fewn ein system addysg yma yng Nghymru, prin yw’r dystiolaeth sydd yn seiliedig ar holi ein dysgwyr ifainc am eu profiadau o hapusrwydd o fewn yr ysgol. Er bod yr awydd yn gryf i sicrhau amgylcheddau a phrofiadau addysgegol ysgogol a fydd yn apelio at y plant ac yn cyfrannu at eu hapusrwydd, ychydig o waith ymchwil a wnaed i’r perwyl hwn. Mae Cwricwlwm i Gymru (2022) yn dathlu cyfraniadau plant fel rhan o gynllunio gan annog addysgwyr i ymateb i anghenion emosiynol a datblygol y plentyn fel rhan o’r dylanwadau ar hapusrwydd plant tra yn yr ysgol, ac o ganlyniad, egwyddorion sy’n sylfaen iddo. Mae’r ymchwiliad ansoddol hwn yn ystyried sut y gall y wybodaeth am eu hapusrwydd gyfrannu at ddealltwriaeth athrawon o hoffterau eu disgyblion er mwyn creu darpariaethau cyfranogol. Safiad damcaniaethol lluniadaeth gymdeithasol (social constructivist) a berthyn i Vygotsky (1978) a model sosioecolegol Bronfenbrenner (1979) a ystyria’r plentyn fel unigolyn medrus a rhagweithiol sy’n sail i’r ymchwil. Credir bod y bydoedd mae’r plentyn oddi mewn iddynt yn dylanwadu ar eu hoffter, dymuniad a’u brwdfrydedd i ymglymu a magu ymdeimlad o berthyn emosiynol. Casglwyd y data gan gyfuno moddau cymysg dull Mosaic (Clark a Moss, 2017; Ungar, 2010) a fu’n fodd o adeiladu darlun cyflawn o hapusrwydd y plant; a gweithredwyd dull dadansoddi Braun a Clarke (2022) o adnabod themâu o fewn y data. Dengys y casgliadau bod ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar hapusrwydd plant ifainc tra yn yr ysgol; gyda gofodau, offer, cyfleoedd, pobl a gweithgareddau amrywiol yn eu plith. Cynigir y gall cywain mwy am hapusrwydd plant yn ystod eu haddysg gyfrannu at ein dealltwriaeth o rym lleisiau plant am eu profiadau ar y pryd, a bod yn offeryn amhrisiadwy o fewn arfogaeth addysgegol addysgwyr.","abstract_html":"Er bod llais a lles y plentyn yn flaenoriaeth o fewn ein system addysg yma yng Nghymru, prin yw’r dystiolaeth sydd yn seiliedig ar holi ein dysgwyr ifainc am eu profiadau o hapusrwydd o fewn yr ysgol. Er bod yr awydd yn gryf i sicrhau amgylcheddau a phrofiadau addysgegol ysgogol a fydd yn apelio at y plant ac yn cyfrannu at eu hapusrwydd, ychydig o waith ymchwil a wnaed i’r perwyl hwn. Mae Cwricwlwm i Gymru (2022) yn dathlu cyfraniadau plant fel rhan o gynllunio gan annog addysgwyr i ymateb i anghenion emosiynol a datblygol y plentyn fel rhan o’r dylanwadau ar hapusrwydd plant tra yn yr ysgol, ac o ganlyniad, egwyddorion sy’n sylfaen iddo. Mae’r ymchwiliad ansoddol hwn yn ystyried sut y gall y wybodaeth am eu hapusrwydd gyfrannu at ddealltwriaeth athrawon o hoffterau eu disgyblion er mwyn creu darpariaethau cyfranogol. Safiad damcaniaethol lluniadaeth gymdeithasol (social constructivist) a berthyn i Vygotsky (1978) a model sosioecolegol Bronfenbrenner (1979) a ystyria’r plentyn fel unigolyn medrus a rhagweithiol sy’n sail i’r ymchwil. Credir bod y bydoedd mae’r plentyn oddi mewn iddynt yn dylanwadu ar eu hoffter, dymuniad a’u brwdfrydedd i ymglymu a magu ymdeimlad o berthyn emosiynol. Casglwyd y data gan gyfuno moddau cymysg dull Mosaic (Clark a Moss, 2017; Ungar, 2010) a fu’n fodd o adeiladu darlun cyflawn o hapusrwydd y plant; a gweithredwyd dull dadansoddi Braun a Clarke (2022) o adnabod themâu o fewn y data. Dengys y casgliadau bod ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar hapusrwydd plant ifainc tra yn yr ysgol; gyda gofodau, offer, cyfleoedd, pobl a gweithgareddau amrywiol yn eu plith. Cynigir y gall cywain mwy am hapusrwydd plant yn ystod eu haddysg gyfrannu at ein dealltwriaeth o rym lleisiau plant am eu profiadau ar y pryd, a bod yn offeryn amhrisiadwy o fewn arfogaeth addysgegol addysgwyr.","abstract_has_math":false,"creators":["Jennings, Carys"],"institution":"University of Wales Trinity Saint David","degree_name":"other","degree_level":"doctoral","degree_discipline":null,"degree_department":null,"school":null,"contributors":[],"advisors":[],"committee_chairs":[],"committee_members":[],"year":2025,"date_issued":"2025-06","date_published":"2025-06","updated_at":"2026-07-24T05:53:08Z","subjects":["LB1501 Addysg Gynradd","LC Agweddau arbenning ar addysg"],"languages":[],"rights":[],"rights_urls":[],"identifier_entries":[{"key":"dc:identifier.grantnumber","label":"Dc Identifier Grantnumber","values":["UWTSD"],"render_values":[{"text":"UWTSD","href":null,"code":true}]}]},"links":{"outbound_url":"https://doi.org/10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00003922","outbound_label":"DOI","outbound_source":"dc:identifier.doi"},"metadata_groups":[{"id":"people","label":"People","entries":[{"key":"dc:contributor.sponsor","label":"Sponsor","values":["University of Wales Trinity Saint David"]},{"key":"dc:creator","label":"Author","values":["Jennings, Carys"]}]},{"id":"academic_context","label":"Academic Context","entries":[{"key":"dc:date","label":"Dc Date","values":["2025-06-16"]},{"key":"dc:date.issued","label":"Date","values":["2025-06"]},{"key":"dc:publisher.commercial","label":"Dc Publisher Commercial","values":["University of Wales Trinity Saint David"]},{"key":"dc:publisher.department","label":"Dc Publisher Department","values":["Traethodau PhD","Institute of Education and Humanities: Centre for Professional Learning and Leadership"]},{"key":"dc:publisher.institution","label":"Dc Publisher Institution","values":["University of Wales Trinity Saint David"]},{"key":"dc:relation.isreferencedby","label":"Dc Relation Isreferencedby","values":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3922/"]},{"key":"dc:type","label":"Dc Type","values":["Gosodiad"]},{"key":"dc:type.qualificationlevel","label":"Dc Type Qualificationlevel","values":["doctoral"]},{"key":"dc:type.qualificationname","label":"Dc Type Qualificationname","values":["other"]}]},{"id":"subjects_keywords","label":"Subjects and Keywords","entries":[{"key":"dc:subject","label":"Dc Subject","values":["LB1501 Addysg Gynradd","LC Agweddau arbenning ar addysg"]}]},{"id":"identifiers","label":"Identifiers","entries":[{"key":"dc:identifier.doi","label":"DOI","values":["10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00003922"]},{"key":"dc:identifier.grantnumber","label":"Dc Identifier Grantnumber","values":["UWTSD"]},{"key":"dc:identifier.uri","label":"Identifier URI","values":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3922/1/Jennings_C_EDD_Thesis.pdf"]}]},{"id":"additional","label":"Additional Metadata","entries":[{"key":"dc:description.abstract","label":"Abstract","values":["Er bod llais a lles y plentyn yn flaenoriaeth o fewn ein system addysg yma yng Nghymru, prin yw’r dystiolaeth sydd yn seiliedig ar holi ein dysgwyr ifainc am eu profiadau o hapusrwydd o fewn yr ysgol. Er bod yr awydd yn gryf i sicrhau amgylcheddau a phrofiadau addysgegol ysgogol a fydd yn apelio at y plant ac yn cyfrannu at eu hapusrwydd, ychydig o waith ymchwil a wnaed i’r perwyl hwn. Mae Cwricwlwm i Gymru (2022) yn dathlu cyfraniadau plant fel rhan o gynllunio gan annog addysgwyr i ymateb i anghenion emosiynol a datblygol y plentyn fel rhan o’r dylanwadau ar hapusrwydd plant tra yn yr ysgol, ac o ganlyniad, egwyddorion sy’n sylfaen iddo. Mae’r ymchwiliad ansoddol hwn yn ystyried sut y gall y wybodaeth am eu hapusrwydd gyfrannu at ddealltwriaeth athrawon o hoffterau eu disgyblion er mwyn creu darpariaethau cyfranogol. Safiad damcaniaethol lluniadaeth gymdeithasol (social constructivist) a berthyn i Vygotsky (1978) a model sosioecolegol Bronfenbrenner (1979) a ystyria’r plentyn fel unigolyn medrus a rhagweithiol sy’n sail i’r ymchwil. Credir bod y bydoedd mae’r plentyn oddi mewn iddynt yn dylanwadu ar eu hoffter, dymuniad a’u brwdfrydedd i ymglymu a magu ymdeimlad o berthyn emosiynol. Casglwyd y data gan gyfuno moddau cymysg dull Mosaic (Clark a Moss, 2017; Ungar, 2010) a fu’n fodd o adeiladu darlun cyflawn o hapusrwydd y plant; a gweithredwyd dull dadansoddi Braun a Clarke (2022) o adnabod themâu o fewn y data. Dengys y casgliadau bod ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar hapusrwydd plant ifainc tra yn yr ysgol; gyda gofodau, offer, cyfleoedd, pobl a gweithgareddau amrywiol yn eu plith. Cynigir y gall cywain mwy am hapusrwydd plant yn ystod eu haddysg gyfrannu at ein dealltwriaeth o rym lleisiau plant am eu profiadau ar y pryd, a bod yn offeryn amhrisiadwy o fewn arfogaeth addysgegol addysgwyr."]},{"key":"dc:format","label":"Dc Format","values":["text"]},{"key":"dc:title","label":"Title","values":["Y Plentyn Hapus: Ymchwiliad i ddehongliadau a phrofiadau plant 3 – 7 oed o’r hyn sy’n creu ymdeimlad o hapusrwydd ynddynt o fewn yr ysgol."]}]}],"canonical_facts":{"dc:contributor.sponsor":["University of Wales Trinity Saint David"],"dc:creator":["Jennings, Carys"],"dc:date":["2025-06-16"],"dc:date.issued":["2025-06"],"dc:description.abstract":["Er bod llais a lles y plentyn yn flaenoriaeth o fewn ein system addysg yma yng Nghymru, prin yw’r dystiolaeth sydd yn seiliedig ar holi ein dysgwyr ifainc am eu profiadau o hapusrwydd o fewn yr ysgol. Er bod yr awydd yn gryf i sicrhau amgylcheddau a phrofiadau addysgegol ysgogol a fydd yn apelio at y plant ac yn cyfrannu at eu hapusrwydd, ychydig o waith ymchwil a wnaed i’r perwyl hwn. Mae Cwricwlwm i Gymru (2022) yn dathlu cyfraniadau plant fel rhan o gynllunio gan annog addysgwyr i ymateb i anghenion emosiynol a datblygol y plentyn fel rhan o’r dylanwadau ar hapusrwydd plant tra yn yr ysgol, ac o ganlyniad, egwyddorion sy’n sylfaen iddo. Mae’r ymchwiliad ansoddol hwn yn ystyried sut y gall y wybodaeth am eu hapusrwydd gyfrannu at ddealltwriaeth athrawon o hoffterau eu disgyblion er mwyn creu darpariaethau cyfranogol. Safiad damcaniaethol lluniadaeth gymdeithasol (social constructivist) a berthyn i Vygotsky (1978) a model sosioecolegol Bronfenbrenner (1979) a ystyria’r plentyn fel unigolyn medrus a rhagweithiol sy’n sail i’r ymchwil. Credir bod y bydoedd mae’r plentyn oddi mewn iddynt yn dylanwadu ar eu hoffter, dymuniad a’u brwdfrydedd i ymglymu a magu ymdeimlad o berthyn emosiynol. Casglwyd y data gan gyfuno moddau cymysg dull Mosaic (Clark a Moss, 2017; Ungar, 2010) a fu’n fodd o adeiladu darlun cyflawn o hapusrwydd y plant; a gweithredwyd dull dadansoddi Braun a Clarke (2022) o adnabod themâu o fewn y data. Dengys y casgliadau bod ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar hapusrwydd plant ifainc tra yn yr ysgol; gyda gofodau, offer, cyfleoedd, pobl a gweithgareddau amrywiol yn eu plith. Cynigir y gall cywain mwy am hapusrwydd plant yn ystod eu haddysg gyfrannu at ein dealltwriaeth o rym lleisiau plant am eu profiadau ar y pryd, a bod yn offeryn amhrisiadwy o fewn arfogaeth addysgegol addysgwyr."],"dc:format":["text"],"dc:identifier.doi":["10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00003922"],"dc:identifier.grantnumber":["UWTSD"],"dc:identifier.uri":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3922/1/Jennings_C_EDD_Thesis.pdf"],"dc:publisher.commercial":["University of Wales Trinity Saint David"],"dc:publisher.department":["Traethodau PhD","Institute of Education and Humanities: Centre for Professional Learning and Leadership"],"dc:publisher.institution":["University of Wales Trinity Saint David"],"dc:relation.isreferencedby":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3922/"],"dc:subject":["LB1501 Addysg Gynradd","LC Agweddau arbenning ar addysg"],"dc:title":["Y Plentyn Hapus: Ymchwiliad i ddehongliadau a phrofiadau plant 3 – 7 oed o’r hyn sy’n creu ymdeimlad o hapusrwydd ynddynt o fewn yr ysgol."],"dc:type":["Gosodiad"],"dc:type.qualificationlevel":["doctoral"],"dc:type.qualificationname":["other"]},"updated_at":"2026-07-24T05:53:08Z"}