Back to results

University of Wales Trinity Saint David

I ba raddau y mae darpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer hwyrddyfodiaid ar lefel llywodraeth leol yn cydweddu ag amcanion ieithyddol a hyrwyddol llywodraeth ganol yng Nghymru? Golwg ar y De-ddwyrain.

Abstract

dc:description.abstract

“Nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth Cymraeg 2050 yw sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif (Llywodraeth Cymru 2017a). Mae’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn rhan allweddol o wireddu’r nod hwn, oherwydd ei bod yn cynyddu’r nifer o bwyntiau mynediad at y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gydol gyrfa addysgol y disgybl.” (Llywodraeth Cymru 2021) Mae'r traethawd hir hwn yn edrych ar i ba raddau y mae darpariaeth addysg drochi hwyr i’r Gymraeg ar lefel llywodraeth leol, yn cydweddu ag amcanion ieithyddol a hyrwyddo llywodraeth ganol yng Nghymru. Gan ystyried y datblygiadau diweddar ym maes polisi iaith ac addysg Gymraeg yng Nghymru, edrychir ar arwyddocâd a pherthnasedd addysg drochi hwyr i’r unfed ganrif ar hugain gan holi ambell gwestiwn megis “Oes angen addysg drochi hwyr yng Nghymru o hyd neu a ddylai’r system addysg gefnogi addysgu’r Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar yn unig?” ac “ a oes cysondeb rhwng y modd y mae gwahanol Awdurdodau Lleol yn mynd i’r afael â darparaieth drochi hwyr ? ” Edrychir ar beth yw diffuniad trochi ieithyddol hwyr, dechreuadau’r fethodoleg hon a sut y mae trochi ieithyddol hwyr wedi datblygu dros y blynyddoedd fel methodoleg i gaffael iaith. Adolygir y mathau gwahanol o drochi iaith sydd yn digwydd yn y byd ac yng Nghymru heddiw. Ffocysir ar Dde Ddwyrain Cymru’n benodol yn yr ymchwil ei hun a’r heriau sydd yn wynebu ardal sydd â’r siroedd o ddwysedd siaradwyr Cymraeg cymunedol isaf yng Nghymru a phriodoldeb a chysondeb y ddarpariaeth drochi hwyr yn yr ardal hon. Ymchwilir i brofiadau rhieni a’r gweithlu wrth gynnal trosolwg o’r sefyllfa ar draws yr ardal, gan gyflwyno argymhellion mewn cyfnod o arwyddocâd cymdeithasol gyda Cofid-19 ac addysgol ar drothwy cychwyn gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 2022-2023.

Degree

thesis:*
Name dc:type.qualificationname
ma
Level dc:type.qualificationlevel
masters
Grantor dc:publisher.institution
University of Wales Trinity Saint David
Year dc:date.issued
2023

Author and committee

dc:creator, dc:contributor.*
Author dc:creator
  • Maher, Elin

Subjects

dc:subject × 2

Identifiers

dc:identifier.*
Dc Identifier Grantnumber
UWTSD
OAI identifier oai:identifier
oai:repository.uwtsd.ac.uk:3163

Chain of custody

source
Harvested from
University of Wales Trinity Saint David
Base URL
repository.uwtsd.ac.uk/cgi/oai2
Last updated
2026-07-24
Source record
OAI-PMH GetRecord
citation

Maher, Elin. I ba raddau y mae darpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer hwyrddyfodiaid ar lefel llywodraeth leol yn cydweddu ag amcanion ieithyddol a hyrwyddol llywodraeth ganol yng Nghymru? Golwg ar y De-ddwyrain.. masters thesis, University of Wales Trinity Saint David, 2023. https://doi.org/10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00003163