University of Wales Trinity Saint David
Trosolwg o’r traddodiadau am Elen Luyddog/Santes Helen yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru
Abstract
dc:description.abstractErbyn heddiw, mae’n debyg ein bod yn cysylltu’r enw Elen/Helen â ffyrdd Rhufeinig Sarn Helen yn bennaf, ynghyd ag enwau lleoedd ac eglwysi yn ardal Caernarfon. Ond pwy, mewn gwirionedd, oedd Elen Luyddog, a sut y cafodd y traddodiadau amdani eu cysylltu â hanes Santes Helena yr honnir iddi ddarganfod croes Iesu Grist? Pam y mae enw Elen/Helen fel pe bai’n ymddangos mewn llawysgrifau Cymraeg mor aml yn yr Oesoedd Canol? Bwriad y gwaith hwn yw ystyried y dystiolaeth ganoloesol yn ymwneud ag Elen Luyddog/Santes Helen er mwyn pwyso a mesur datblygiad y traddodiadau amdani yng Nghymru. Fel y gwelir maes o law, ceir nifer o gyfeiriadau at Elen/Helen mewn dogfennau a chyddestunau gwahanol yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, gan gynnwys mewn achau Cymraeg, chwedl secwlar, barddoniaeth, cyfieithiad Cymraeg o hanes Santes Helena a gwaith celf. Ymgais yw’r gwaith hwn i ddwyn ynghyd y ffynonellau gwahanol er mwyn pwyso a mesur arwyddocâd Elen Luyddog/Santes Helen yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru.
Degree
thesis:*- Name dc:type.qualificationname
- ma
- Level dc:type.qualificationlevel
- masters
- Grantor dc:publisher.institution
- University of Wales Trinity Saint David
- Year dc:date.issued
- 2018
Author and committee
dc:creator, dc:contributor.*- Author dc:creator
-
- Jones, Steven Peter
Identifiers
dc:identifier.*- Dc Identifier Grantnumber
- UWTSD
- OAI identifier oai:identifier
- oai:repository.uwtsd.ac.uk:1699