{"id":{"repo_id":"uwtsd","oai_identifier":"oai:repository.uwtsd.ac.uk:1284"},"canonical_url":"https://search.dev.ndltd.org/etd/uwtsd/oai:repository.uwtsd.ac.uk:1284","repository":{"repo_id":"uwtsd","name":"University of Wales Trinity Saint David","base_url":"https://repository.uwtsd.ac.uk/cgi/oai2"},"display":{"title":"Pentigily o Dudrath i Dyddewi : Llenyddiaeth Dafodieithol Penfro","abstract":"Amcan y gwaith ymchwil hwn yw cynnig disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o lenyddiaeth dafodieithol, ei natur a’i gwerth, gan ffocysu ar dafodiaith Sir Benfro. Ychydig a ysgrifennwyd yn gyffredinol am y maes yn y Gymraeg ac ni chyflwynwyd unrhyw draethawd ymchwil yn benodol ar lenyddiaeth dafodieithol hyd yma. Y mae’r ymchwil hwn nid yn unig yn cyfrannu at yr hyn sy’n bodoli eisoes ym maes llenyddiaeth dafodieithol, ond yn ogystal yn cyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ardal benodol. Er mwyn gosod y traethawd yn ei gyd-destun, yn y bennod gyntaf cyflwynir ac ystyrir iaith, tafodiaith a llenyddiaeth dafodieithol. Trafodir natur a phwrpas iaith gan roi sylw penodol i’r iaith Gymraeg, diffiniad tafodiaith ac agweddau ati ynghyd â natur llenyddiaeth dafodieithol a’i gwerth yn gyffredinol. Yn yr ail bennod, trafodir y fethodoleg ymchwil a ddefnyddiwyd wrth astudio’r maes hwn. Cyflwynir yn ogystal y pum cwestiwn y dymunir eu hateb yn ystod proses casglu a dadansoddi gwybodaeth. Yn y drydedd bennod ystyrir a thrafodir rhai awduron Cymreig a ysgrifennodd lenyddiaeth dafodieithol. Rhoddir enghreifftiau a blas o’r llenyddiaeth dafodieithol sy’n bodoli yn y Gymraeg, a hynny o wahanol rannau o Gymru, a’r amcan yw cyfrannu at y drafodaeth ehangach am lenyddiaeth dafodieithol Gymraeg yn hytrach na chyfyngu’r drafodaeth i un ardal benodol yn unig. Yn y bedwaredd bennod, ystyrir y gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd y de a’r gogledd, cyn manylu ar dafodiaith Sir Benfro, gan egluro sut y mae’n wahanol i dafodieithoedd eraill y de. Er nad astudiaeth o’r iaith a ddefnyddir yn y gweithiau amrywiol yw hon ond astudiaeth lenyddol, trafodir rhai o nodweddion a geirfa tafodiaith Sir Benfro er mwyn rhoi esboniad ohonynt i’r darllenydd cyn dyfynnu o lenyddiaeth dafodieithol y sir yn y penodau sy’n dilyn. Yn y bumed bennod ystyrir a dadansoddir enghreifftiau o’r llenyddiaeth a ysgrifennwyd gan awduron unigol yn nhafodiaith Sir Benfro, o’r cofnod cynharaf sydd ar gael, hyd y gwyddys, yn 1889 hyd at heddiw. Eir ymlaen yn y chweched bennod i ystyried cyfrolau o lenyddiaeth, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn gyfan gwbl mewn tafodiaith ac eraill (sydd yn tarddu o Sir Benfro neu wedi eu seilio yno, neu wedi eu hysgrifennu gan awduron a aned neu a fu’n byw yn y sir ar ryw adeg yn eu bywyd) yn cynnwys rhai gweithiau mewn tafodiaith. Un o awduron tafodieithol enwocaf Sir Benfro yw Dewi Emrys. Gan fod ei gerdd dafodieithol ‘Pwllderi’ yn gerdd arloesol yn nhermau canu tafodieithol Cymraeg, neilltuir pennod saith i drafod yr awdur hwn. Un o awduron tafodieithol mwyaf cynhyrchiol Sir Benfro yw W. R. Evans. Yn fardd, llenor a sylfaenydd y côr ‘Bois y Frenni’, gwnaeth lawer i hybu, poblogeiddio a dyrchafu llenyddiaeth dafodieithol y sir, ac fe’i hystyrir yn yr wythfed bennod. Yn y nawfed bennod, y Casgliad ac Argymhellion, atebir y pum cwestiwn a luniwyd ar ddechrau’r gwaith ymchwil hwn ac amlygir y prif faterion yn codi ohono. Yn ogystal, awgrymir meysydd y gellid ymchwilio iddynt ymhellach er mwyn ehangu’r drafodaeth a’r ddealltwriaeth o lenyddiaeth dafodieithol.","abstract_html":"Amcan y gwaith ymchwil hwn yw cynnig disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o lenyddiaeth dafodieithol, ei natur a’i gwerth, gan ffocysu ar dafodiaith Sir Benfro. Ychydig a ysgrifennwyd yn gyffredinol am y maes yn y Gymraeg ac ni chyflwynwyd unrhyw draethawd ymchwil yn benodol ar lenyddiaeth dafodieithol hyd yma. Y mae’r ymchwil hwn nid yn unig yn cyfrannu at yr hyn sy’n bodoli eisoes ym maes llenyddiaeth dafodieithol, ond yn ogystal yn cyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ardal benodol. Er mwyn gosod y traethawd yn ei gyd-destun, yn y bennod gyntaf cyflwynir ac ystyrir iaith, tafodiaith a llenyddiaeth dafodieithol. Trafodir natur a phwrpas iaith gan roi sylw penodol i’r iaith Gymraeg, diffiniad tafodiaith ac agweddau ati ynghyd â natur llenyddiaeth dafodieithol a’i gwerth yn gyffredinol. Yn yr ail bennod, trafodir y fethodoleg ymchwil a ddefnyddiwyd wrth astudio’r maes hwn. Cyflwynir yn ogystal y pum cwestiwn y dymunir eu hateb yn ystod proses casglu a dadansoddi gwybodaeth. Yn y drydedd bennod ystyrir a thrafodir rhai awduron Cymreig a ysgrifennodd lenyddiaeth dafodieithol. Rhoddir enghreifftiau a blas o’r llenyddiaeth dafodieithol sy’n bodoli yn y Gymraeg, a hynny o wahanol rannau o Gymru, a’r amcan yw cyfrannu at y drafodaeth ehangach am lenyddiaeth dafodieithol Gymraeg yn hytrach na chyfyngu’r drafodaeth i un ardal benodol yn unig. Yn y bedwaredd bennod, ystyrir y gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd y de a’r gogledd, cyn manylu ar dafodiaith Sir Benfro, gan egluro sut y mae’n wahanol i dafodieithoedd eraill y de. Er nad astudiaeth o’r iaith a ddefnyddir yn y gweithiau amrywiol yw hon ond astudiaeth lenyddol, trafodir rhai o nodweddion a geirfa tafodiaith Sir Benfro er mwyn rhoi esboniad ohonynt i’r darllenydd cyn dyfynnu o lenyddiaeth dafodieithol y sir yn y penodau sy’n dilyn. Yn y bumed bennod ystyrir a dadansoddir enghreifftiau o’r llenyddiaeth a ysgrifennwyd gan awduron unigol yn nhafodiaith Sir Benfro, o’r cofnod cynharaf sydd ar gael, hyd y gwyddys, yn 1889 hyd at heddiw. Eir ymlaen yn y chweched bennod i ystyried cyfrolau o lenyddiaeth, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn gyfan gwbl mewn tafodiaith ac eraill (sydd yn tarddu o Sir Benfro neu wedi eu seilio yno, neu wedi eu hysgrifennu gan awduron a aned neu a fu’n byw yn y sir ar ryw adeg yn eu bywyd) yn cynnwys rhai gweithiau mewn tafodiaith. Un o awduron tafodieithol enwocaf Sir Benfro yw Dewi Emrys. Gan fod ei gerdd dafodieithol ‘Pwllderi’ yn gerdd arloesol yn nhermau canu tafodieithol Cymraeg, neilltuir pennod saith i drafod yr awdur hwn. Un o awduron tafodieithol mwyaf cynhyrchiol Sir Benfro yw W. R. Evans. Yn fardd, llenor a sylfaenydd y côr ‘Bois y Frenni’, gwnaeth lawer i hybu, poblogeiddio a dyrchafu llenyddiaeth dafodieithol y sir, ac fe’i hystyrir yn yr wythfed bennod. Yn y nawfed bennod, y Casgliad ac Argymhellion, atebir y pum cwestiwn a luniwyd ar ddechrau’r gwaith ymchwil hwn ac amlygir y prif faterion yn codi ohono. Yn ogystal, awgrymir meysydd y gellid ymchwilio iddynt ymhellach er mwyn ehangu’r drafodaeth a’r ddealltwriaeth o lenyddiaeth dafodieithol.","abstract_has_math":false,"creators":["Thomas, Ruth"],"institution":"University of Wales Trinity Saint David","degree_name":"phd","degree_level":"doctoral","degree_discipline":null,"degree_department":null,"school":null,"contributors":[],"advisors":[],"committee_chairs":[],"committee_members":[],"year":2020,"date_issued":"2020-01","date_published":"2020-01","updated_at":"2026-07-24T05:52:50Z","subjects":["PN Llenyddiaeth (Cyffredinol)"],"languages":[],"rights":[],"rights_urls":[],"identifier_entries":[{"key":"dc:identifier.grantnumber","label":"Dc Identifier Grantnumber","values":["UWTSD"],"render_values":[{"text":"UWTSD","href":null,"code":true}]}]},"links":{"outbound_url":"https://doi.org/10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00001284","outbound_label":"DOI","outbound_source":"dc:identifier.doi"},"metadata_groups":[{"id":"people","label":"People","entries":[{"key":"dc:contributor.sponsor","label":"Sponsor","values":["University of Wales Trinity Saint David"]},{"key":"dc:creator","label":"Author","values":["Thomas, Ruth"]}]},{"id":"academic_context","label":"Academic Context","entries":[{"key":"dc:date","label":"Dc Date","values":["2020-01-13"]},{"key":"dc:date.issued","label":"Date","values":["2020-01"]},{"key":"dc:publisher.commercial","label":"Dc Publisher Commercial","values":["University of Wales Trinity Saint David"]},{"key":"dc:publisher.department","label":"Dc Publisher Department","values":["Traethodau PhD","Yr Athrofa"]},{"key":"dc:publisher.institution","label":"Dc Publisher Institution","values":["University of Wales Trinity Saint David"]},{"key":"dc:relation.isreferencedby","label":"Dc Relation Isreferencedby","values":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1284/"]},{"key":"dc:type","label":"Dc Type","values":["Gosodiad"]},{"key":"dc:type.qualificationlevel","label":"Dc Type Qualificationlevel","values":["doctoral"]},{"key":"dc:type.qualificationname","label":"Dc Type Qualificationname","values":["phd"]}]},{"id":"subjects_keywords","label":"Subjects and Keywords","entries":[{"key":"dc:subject","label":"Dc Subject","values":["PN Llenyddiaeth (Cyffredinol)"]}]},{"id":"identifiers","label":"Identifiers","entries":[{"key":"dc:identifier.doi","label":"DOI","values":["10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00001284"]},{"key":"dc:identifier.grantnumber","label":"Dc Identifier Grantnumber","values":["UWTSD"]},{"key":"dc:identifier.uri","label":"Identifier URI","values":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1284/1/Thomas%20Ruth%20%282020%29%20Pentigily%20o%20Dudrath%20i%20Dyddewi%20-%20Llenyddiaeth%20Dafodieithol%20Penfro%20%28002%29%20%282%29.pdf"]}]},{"id":"additional","label":"Additional Metadata","entries":[{"key":"dc:description.abstract","label":"Abstract","values":["Amcan y gwaith ymchwil hwn yw cynnig disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o lenyddiaeth dafodieithol, ei natur a’i gwerth, gan ffocysu ar dafodiaith Sir Benfro. Ychydig a ysgrifennwyd yn gyffredinol am y maes yn y Gymraeg ac ni chyflwynwyd unrhyw draethawd ymchwil yn benodol ar lenyddiaeth dafodieithol hyd yma. Y mae’r ymchwil hwn nid yn unig yn cyfrannu at yr hyn sy’n bodoli eisoes ym maes llenyddiaeth dafodieithol, ond yn ogystal yn cyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ardal benodol. Er mwyn gosod y traethawd yn ei gyd-destun, yn y bennod gyntaf cyflwynir ac ystyrir iaith, tafodiaith a llenyddiaeth dafodieithol. Trafodir natur a phwrpas iaith gan roi sylw penodol i’r iaith Gymraeg, diffiniad tafodiaith ac agweddau ati ynghyd â natur llenyddiaeth dafodieithol a’i gwerth yn gyffredinol. Yn yr ail bennod, trafodir y fethodoleg ymchwil a ddefnyddiwyd wrth astudio’r maes hwn. Cyflwynir yn ogystal y pum cwestiwn y dymunir eu hateb yn ystod proses casglu a dadansoddi gwybodaeth. Yn y drydedd bennod ystyrir a thrafodir rhai awduron Cymreig a ysgrifennodd lenyddiaeth dafodieithol. Rhoddir enghreifftiau a blas o’r llenyddiaeth dafodieithol sy’n bodoli yn y Gymraeg, a hynny o wahanol rannau o Gymru, a’r amcan yw cyfrannu at y drafodaeth ehangach am lenyddiaeth dafodieithol Gymraeg yn hytrach na chyfyngu’r drafodaeth i un ardal benodol yn unig. Yn y bedwaredd bennod, ystyrir y gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd y de a’r gogledd, cyn manylu ar dafodiaith Sir Benfro, gan egluro sut y mae’n wahanol i dafodieithoedd eraill y de. Er nad astudiaeth o’r iaith a ddefnyddir yn y gweithiau amrywiol yw hon ond astudiaeth lenyddol, trafodir rhai o nodweddion a geirfa tafodiaith Sir Benfro er mwyn rhoi esboniad ohonynt i’r darllenydd cyn dyfynnu o lenyddiaeth dafodieithol y sir yn y penodau sy’n dilyn. Yn y bumed bennod ystyrir a dadansoddir enghreifftiau o’r llenyddiaeth a ysgrifennwyd gan awduron unigol yn nhafodiaith Sir Benfro, o’r cofnod cynharaf sydd ar gael, hyd y gwyddys, yn 1889 hyd at heddiw. Eir ymlaen yn y chweched bennod i ystyried cyfrolau o lenyddiaeth, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn gyfan gwbl mewn tafodiaith ac eraill (sydd yn tarddu o Sir Benfro neu wedi eu seilio yno, neu wedi eu hysgrifennu gan awduron a aned neu a fu’n byw yn y sir ar ryw adeg yn eu bywyd) yn cynnwys rhai gweithiau mewn tafodiaith. Un o awduron tafodieithol enwocaf Sir Benfro yw Dewi Emrys. Gan fod ei gerdd dafodieithol ‘Pwllderi’ yn gerdd arloesol yn nhermau canu tafodieithol Cymraeg, neilltuir pennod saith i drafod yr awdur hwn. Un o awduron tafodieithol mwyaf cynhyrchiol Sir Benfro yw W. R. Evans. Yn fardd, llenor a sylfaenydd y côr ‘Bois y Frenni’, gwnaeth lawer i hybu, poblogeiddio a dyrchafu llenyddiaeth dafodieithol y sir, ac fe’i hystyrir yn yr wythfed bennod. Yn y nawfed bennod, y Casgliad ac Argymhellion, atebir y pum cwestiwn a luniwyd ar ddechrau’r gwaith ymchwil hwn ac amlygir y prif faterion yn codi ohono. Yn ogystal, awgrymir meysydd y gellid ymchwilio iddynt ymhellach er mwyn ehangu’r drafodaeth a’r ddealltwriaeth o lenyddiaeth dafodieithol."]},{"key":"dc:format","label":"Dc Format","values":["text"]},{"key":"dc:title","label":"Title","values":["Pentigily o Dudrath i Dyddewi : Llenyddiaeth Dafodieithol Penfro"]}]}],"canonical_facts":{"dc:contributor.sponsor":["University of Wales Trinity Saint David"],"dc:creator":["Thomas, Ruth"],"dc:date":["2020-01-13"],"dc:date.issued":["2020-01"],"dc:description.abstract":["Amcan y gwaith ymchwil hwn yw cynnig disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o lenyddiaeth dafodieithol, ei natur a’i gwerth, gan ffocysu ar dafodiaith Sir Benfro. Ychydig a ysgrifennwyd yn gyffredinol am y maes yn y Gymraeg ac ni chyflwynwyd unrhyw draethawd ymchwil yn benodol ar lenyddiaeth dafodieithol hyd yma. Y mae’r ymchwil hwn nid yn unig yn cyfrannu at yr hyn sy’n bodoli eisoes ym maes llenyddiaeth dafodieithol, ond yn ogystal yn cyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ardal benodol. Er mwyn gosod y traethawd yn ei gyd-destun, yn y bennod gyntaf cyflwynir ac ystyrir iaith, tafodiaith a llenyddiaeth dafodieithol. Trafodir natur a phwrpas iaith gan roi sylw penodol i’r iaith Gymraeg, diffiniad tafodiaith ac agweddau ati ynghyd â natur llenyddiaeth dafodieithol a’i gwerth yn gyffredinol. Yn yr ail bennod, trafodir y fethodoleg ymchwil a ddefnyddiwyd wrth astudio’r maes hwn. Cyflwynir yn ogystal y pum cwestiwn y dymunir eu hateb yn ystod proses casglu a dadansoddi gwybodaeth. Yn y drydedd bennod ystyrir a thrafodir rhai awduron Cymreig a ysgrifennodd lenyddiaeth dafodieithol. Rhoddir enghreifftiau a blas o’r llenyddiaeth dafodieithol sy’n bodoli yn y Gymraeg, a hynny o wahanol rannau o Gymru, a’r amcan yw cyfrannu at y drafodaeth ehangach am lenyddiaeth dafodieithol Gymraeg yn hytrach na chyfyngu’r drafodaeth i un ardal benodol yn unig. Yn y bedwaredd bennod, ystyrir y gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd y de a’r gogledd, cyn manylu ar dafodiaith Sir Benfro, gan egluro sut y mae’n wahanol i dafodieithoedd eraill y de. Er nad astudiaeth o’r iaith a ddefnyddir yn y gweithiau amrywiol yw hon ond astudiaeth lenyddol, trafodir rhai o nodweddion a geirfa tafodiaith Sir Benfro er mwyn rhoi esboniad ohonynt i’r darllenydd cyn dyfynnu o lenyddiaeth dafodieithol y sir yn y penodau sy’n dilyn. Yn y bumed bennod ystyrir a dadansoddir enghreifftiau o’r llenyddiaeth a ysgrifennwyd gan awduron unigol yn nhafodiaith Sir Benfro, o’r cofnod cynharaf sydd ar gael, hyd y gwyddys, yn 1889 hyd at heddiw. Eir ymlaen yn y chweched bennod i ystyried cyfrolau o lenyddiaeth, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn gyfan gwbl mewn tafodiaith ac eraill (sydd yn tarddu o Sir Benfro neu wedi eu seilio yno, neu wedi eu hysgrifennu gan awduron a aned neu a fu’n byw yn y sir ar ryw adeg yn eu bywyd) yn cynnwys rhai gweithiau mewn tafodiaith. Un o awduron tafodieithol enwocaf Sir Benfro yw Dewi Emrys. Gan fod ei gerdd dafodieithol ‘Pwllderi’ yn gerdd arloesol yn nhermau canu tafodieithol Cymraeg, neilltuir pennod saith i drafod yr awdur hwn. Un o awduron tafodieithol mwyaf cynhyrchiol Sir Benfro yw W. R. Evans. Yn fardd, llenor a sylfaenydd y côr ‘Bois y Frenni’, gwnaeth lawer i hybu, poblogeiddio a dyrchafu llenyddiaeth dafodieithol y sir, ac fe’i hystyrir yn yr wythfed bennod. Yn y nawfed bennod, y Casgliad ac Argymhellion, atebir y pum cwestiwn a luniwyd ar ddechrau’r gwaith ymchwil hwn ac amlygir y prif faterion yn codi ohono. Yn ogystal, awgrymir meysydd y gellid ymchwilio iddynt ymhellach er mwyn ehangu’r drafodaeth a’r ddealltwriaeth o lenyddiaeth dafodieithol."],"dc:format":["text"],"dc:identifier.doi":["10.82227/repository.uwtsd.ac.uk.00001284"],"dc:identifier.grantnumber":["UWTSD"],"dc:identifier.uri":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1284/1/Thomas%20Ruth%20%282020%29%20Pentigily%20o%20Dudrath%20i%20Dyddewi%20-%20Llenyddiaeth%20Dafodieithol%20Penfro%20%28002%29%20%282%29.pdf"],"dc:publisher.commercial":["University of Wales Trinity Saint David"],"dc:publisher.department":["Traethodau PhD","Yr Athrofa"],"dc:publisher.institution":["University of Wales Trinity Saint David"],"dc:relation.isreferencedby":["https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1284/"],"dc:subject":["PN Llenyddiaeth (Cyffredinol)"],"dc:title":["Pentigily o Dudrath i Dyddewi : Llenyddiaeth Dafodieithol Penfro"],"dc:type":["Gosodiad"],"dc:type.qualificationlevel":["doctoral"],"dc:type.qualificationname":["phd"]},"updated_at":"2026-07-24T05:52:50Z"}