Back to results

University of South Wales

Beirdd Gwlad Ffair-rhos a'u Cefndir Diwylliannol a Diwydiannol

Abstract

dc:description.abstract

Ganwyd yn ardal Ffair-rhos yn ystod yr ugeinfed ganrif bedwar o feirdd y gellid eu hystyried yn enghreifftiau nodweddiadol o draddodiad y bardd gwlad yng Nghymru ar ei orau. Daeth Dafydd Jones a W.J. Gruffydd yn brifeirdd cenedlaethol ac enillodd Evan Jenkins yntau lawryfon y Brifwyl. Er na bu i Jack Oliver gystadlu ar lefel genedlaethol, diau iddo ennill statws cenedlaethol fel prydydd poblogaidd, colofnydd papur newydd ac fel cymeriad lliwgar a gwreiddiol.

Yn rhannu'r un agenda lenyddol ac yn cydoesi a hwy yn ardal Llangrannog, yr oedd brawdoliaeth farddol y daethpwyd i'w hadnabod yn ddiweddarach fel Bois y Cilie. Fel amaethwyr ymhyfrydai'r beirdd yn y cylch hwn yn y datblygiadau technolegol diweddaraf ym myd amaeth a hiraeth diddagrau, disentiment sydd ganddynt am y doe hamddenol a lliwgar a gollwyd. Ar y Haw arall, rhydd Beirdd Ffair-rhos bortread angerddol o dlodi eu pentref heddiw o'i gymharu a'i ffyniant diwydiannol a diwylliannol yn banner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yr oedd yn Ffair-rhos, adeg magwraeth y Beirdd, gymdeithas a goleddai safonau crefyddol ymneilltuol a safonau bucheddol pendant. Gellir dweud mai o blith y bobl feddwl-f laenllaw, asgwrn cefn y capel a'r diwylliant lleol, yr hanai Beirdd Ffair-rhos.

Yn ogystal a'r beirdd gwlad, gellir sylwi i'r arlunwyr naif a'r arlunwyr gwlad yng Nghymru yn y ganrif ddiwethaf roddi mynegiant clodwiw i'r diwylliant Cymreig gwledig, yn arbennig yn eu portreadau o hoelion wyth y Methodistiaid a'r cymeriadau lleol a anfarwolwyd ganddynt ar gynfas. Cyflawnai rhai o'r arlunwyr hyn swyddogaeth debyg i un y bardd gwlad yn eu gwahanol ardaloedd, ac iddynt hwy 'roedd arlunio, fel barddoni, yn offrymu mawl i gymwynaswyr y ffydd ac i arwyr lleol.

Swyddogaeth y canu mawl a marwnad yn y traddodiad llenyddol drwy'r canrifoedd fu delfrydu arwyr a diddori cynulleidfaoedd yn hytrach na beirniadu a cheryddu. Yn yr un modd/ rhoddi parhad i enw da' r gwrthrych oedd nod y beirdd a'r arlunwyr gwlad, a chyfetyb penillion y bardd gwlad i ddarlun yr arlunydd gwlad ar fur neu garreg goffa ym mur capel neu eglwys.

Dylanwadwyd ar y beirdd gwlad, yn arbennig ar eu cerddi i fyd natur, gan y Mudiad Rhamantaidd. Ni chanfu'r mwyafrif ohonynt unrhyw brofiad cyfriniol ac ysbrydol yn y byd o'u cwmpas, ond yr oedd natur yn ffenomen weladwy iddynt. Ymatebai Beirdd Ffair-rhos i'w bro enedigol yn oddrychol ac yn deimladwy.

Telynegol a hiraethus yw llawer o'r cerddi lie y dirmygir y presennol ar draul y gorffennol paradwysaidd. Nid oes yma chwerwder namyn galaru tawel ac wylo uwch adfeilion yr hen gymdeithas dduwiolfrydig. Ymwrthodir H realaeth heddiw a bodlonir ar ddarlun idyllic o'r pentref traddodiadol. Mae'r portreadu hwn yn wrthgyferbyniad llwyr i fformwla Caradoc Evans yn My People a Dylan Thomas yn Under Milk Wood, ac yn debycach i'r hyn a geir gan O.M. Edwards a D.J. Williams. Ffrwyth atgof dethol yw cynnyrch Beirdd Ffair-rhos.

Bro wledig plentyndod fu Ffair-rhos i'w beirdd ac ymrithiodd yn rhyw Dir na n'Og o le, a ystyrid yn arwydd o'r gwerthoedd ysbrydol parhaol sydd yn drech na threigl amser. Disgrifir y pentref cyn iddo gael ei anrheithio gan chwyldro'r peiriant petrol a chyn iddo gael ei ddifwyno gan y pibellau a'r peilonau sydd heddiw'n cyfrodeddu'r lie. Pa faint bynnag o newidiadau a welir yn y dyfodol, erys Beirdd Ffair- rhos yn dyst i'r profiad dynol, crefyddol a chymdeithasol mewn bro neilltuol ar adeg arbennig yn ei hanes.

Degree

thesis:*
Name dc:type.qualificationname
Doctoral Thesis
Level dc:type.qualificationlevel
Student thesis
Year dc:date.issued
1997

Author and committee

dc:creator, dc:contributor.*
Author dc:creator
• Edwards, David

Rights

Language dc:language
cym

Identifiers

dc:identifier.*
Identifier
oai:pure.atira.dk:studenttheses/ecbf4de2-b763-481d-af74-76daab3c4d97
OAI identifier oai:identifier
oai:pure.atira.dk:studenttheses/ecbf4de2-b763-481d-af74-76daab3c4d97

Chain of custody

source
Harvested from
University of South Wales
Base URL
pure.southwales.ac.uk/ws/oai
Last updated
2026-07-24
Source record
OAI-PMH GetRecord
citation

Edwards, David. Beirdd Gwlad Ffair-rhos a'u Cefndir Diwylliannol a Diwydiannol. Student thesis thesis, 1997. https://pure.southwales.ac.uk/en/studentTheses/ecbf4de2-b763-481d-af74-76daab3c4d97